Gwybodaeth i Gleifion
Mae'r wefan hon yn dweud wrthych yr hyn a wyddom am gyfraddau goroesi i gleifion sy'n cael llawdrinaeth ar y galon mewn gwahanol ysbytai yn y DU. Gallwch ddefnyddio'r wefan hon i edrych ar fanylion ysbyty neu lawfeddyg penodol a chanfod pa ganran o'u cleifion sy'n gadael yr ysbyty'n fyw ar ôl llawdriniaeth.
Gallwch hefyd ganfod a yw'r gyfradd goroesi o fewn yr amrediad y byddem yn ei ddisgwyl, gan gymryd i ystyriaeth y math o glaf sy'n cael ei drin a pha mor hen neu sâl yw'r cleifion cyn y llawdriniaeth. Rydym yn asesu ansawdd llawdriniaethau'n barhaus a byddwch yn cael tawelwch meddwl i wybod bod llawfeddygon eu hunain yn defnyddio'r wybodaeth hon i fonitro'r gwasanethau y maent yn eu darparu ac i ddeall sut y maen nhw'n cymharu gydag ysbytai a llawfeddygon eraill.
Mae'r wefan wedi cael ei dylunio mewn cydweithrediad â chleifion a llawfeddygon. Ei bwriad yw darparu gwybodaeth ddefnyddiol am lawdriniaeth ar y galon. Fodd bynnag, nid dyma'r unig wybodaeth y dylech ei hystyried cyn gwneud penderfyniad am lawdriniaeth ar y galon. Ein cyngor i chi yw y dylech drafod unrhyw benderfyniad y mae angen i chi ei gymryd â'ch meddyg teulu neu gydag arbenigwr.
Sut i ddarllen y cyfraddau goroesi ar y wefan hon
Mae'r wefan hon yn dangos gwybodaeth am gyfraddau goroesi i ysbytai a llawfeddygon dros y DU. Mae gwybodaeth ar gael ar bob ysbyty sy'n darparu llawdriniaeth ar y galon yn y DU, er mai dim ond ar gyfer 29 o'r 39 ysbyty y mae cyfraddau goroesi dan lawfeddygon unigol ar gael. Efallai y bydd gwybodaeth am gyfraddau goroesi llawfeddygon gweddill yr ysbytai'n dod ar gael yn y dyfodol.
Ar y wefan hon, cyflwynir gwybodaeth am gyfraddau goroesi yn y modd canlynol.

Yn y siart hwn mae'r blwch gwyrdd yn dangos fod cyfradd goroesi'r llawdriniaeth hwn yn 98.1% (1). Mewn geiriau eraill, roedd 981 o bob 1,000 o bobl gafodd eu trin yn yr ysbyty hwn wedi goroesi eu llawdriniaeth ar y galon ac wedi eu rhyddhau o'r ysbyty.
Mae rhai cleifion yn fwy tebygol o oroesi llawdriniaeth nag eraill, yn dibynnu ar ffactorau megis oedran a'u hiechyd yn gyffredinol. Bydd ysbytai sy'n trin cleifion mwy "risg uchel" yn dangos cyfraddau goroesi disgwyliedig is na'r ysbytai sy'n trin cleifon yr ystyrir eu bod yn gymharol 'risg isel'. Mae'r band gwyn yn y siart uchod (2) yn dynodi bod y gyfradd goroesi ddisgwyliedig yn yr ysbyty hwn rhwng 94.4% a 97.1%, ar ôl ystyried oed a difrifoldeb salwch y cleifion gafodd lawdriniaeth yno. Felly yn yr enghraifft hon mae'r uned yn perfformio'n dda iawn.
Deall eich lefel risg
Mae goroesi llawdriniaeth ar y galon yn dibynnu ar lawer o bethau. Un ohonynt yw pa mor hen a pha mor sâl yw'r claf adeg y llawdriniaeth. Un arall yw pa mor gymhleth neu anodd yw'r driniaeth. Mae llawer o gleifion eisiau deall beth yw'r siawns y byddant yn goroesi llawdriniaeth. Er mwyn deall beth yw eich siawns eich hun o oroesi, dylech drafod eich amgylchiadau â'ch meddyg teulu a'ch arbenigwr. Mae yna ffyrdd o ragweld tebygolrwydd goroesi ar gyfer gr?p o gleifion. Pan fyddwn yn gwybod beth yw tebygolrwydd goroesi, gallwn gymharu hyn â'r ffigurau goroesi eu hunain er mwyn gweld pa mor dda mae ysbyty'n ei wneud.
Ar y wefan hon rydym yn mesur tebygolrwydd goroesi gan ddefnyddio EuroSCORE ac yn cymharu canlyniadau ysbytai a llawfeddygon â'r sgôr hwnnw. Mae gwefan EuroSCORE yn darparu gwybodaeth i gleifion yn cynnwys cyfrifiannell EuroSCORE i gleifion sy'n caniatáu i chi gyfrifo eich risg eich hun. Ond mae rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn gan y gyfrifiannell EuroSCORE yn rhai cymhleth ac efallai na fyddwch chi'n gwybod yr atebion. Os ydych am ddefnyddio'r gyfrifiannell, efallai y byddwch am drafod rhai o'r cwestiynau â'ch meddyg.
Yn ystod y bedair blynedd ddiwethaf, mae llawfeddygaeth ar y galon yn y DU wedi tueddu i fod yn well na rhagolygon EuroSCORE. Yn ogystal â chymharu canlyniadau ysbytai gyda EuroSCORE, rydym hefyd wedi cyfrifo'r cyfraddau goroesi disgwyliedig drwy addasu'r sgorio yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol y DU yn unig. Mae addasu ar gyfer perfformiad y DU yn golygu fod disgwyl i fwy o bobl oroesi ac felly mae'n gymhariaeth galetach. Mae'r gymhariaeth hon ar gyfer y DU wedi ei darparu am ysbytai ond nid am lawfeddygon unigol.
Sut y bu i gleifion gymryd rhan wrth ddatblygu'r wefan hon
Wrth ddatblygu'r wefan hon, buom yn gweithio gyda grwpiau o gleifion o Sefydliad Prydeinig y Galon, rhwydwaith gardiaidd Manceinion Fwyaf a Swydd Gaer a chynrychiolwyr o bartneriaeth Heart Care Partnership UK. Atebodd dros 70 o gleifion holiadur am y wefan hefyd. Rydym wedi gwella'r dyluniad o ganlyniad i'r adborth hwn.
Mae'r Comisiwn Gofal Iechyd a'r Gymdeithas Llawfeddygaeth Gardiothorasig ill dau'n awyddus i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol. Rydym yn croesawu eich awgrymiadau am sut y gallwn wella'r wefan hon a'r wybodaeth a ddarparwn.